Cais Caerffili i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028
I helpu i lunio cais Caerffili i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028, cynhaliwyd tri digwyddiad cymunedol yn Y Banc.
Trwy weithdai a sgyrsiau creadigol, gwahoddwyd pobl i rannu'r hyn roedden nhw'n ei garu am Gaerffili a'u gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol.