CYNEFIN:
Dathlu Creadigrwydd

Enwebwch Aelod Creadigol o’r Gymuned

cropped-CynefinCaerffili_Logo_Trans_v1
Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n meddwl yn greadigol, yn gallu datrys problem, ac sydd â syniadau da i wneud Caerffili yn le mwy lliwgar a bywiog i fyw.

Nid yw creadigrwydd yn ymwneud â'r celfyddydau’n unig, ond yn hytrach â meddwl y tu allan i’r bocs, boed hynny mewn stiwdio, ystafell ddosbarth, gweithdy neu randir. Mae’n ymwneud â dod â syniadau’n fyw ac ysbrydoli eraill.

Enwebwch rywun y mae ei greadigrwydd yn haeddu cael ei ddathlu.

Bydd rhai o’r enwebeion yn cael eu lluniau wedi eu tynnu gan y ffotograffydd Jon Pountney, i’w cynnwys yn ein harddangosfa Cynefin: Dathlu Creadigrwydd, yn Y Banc. Bydd cyfle gan yr enwebeion i arddangos eu gwaith eu hunain hefyd.

Enwebwch rywun cyn 31 Awst yma:

  • Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Llun 31 Awst 2026.
  • Noson Agored Arbennig ar gyfer enwebeion dan sylw, teulu a gwesteion arbennig (gwahoddiad yn unig): Dydd Gwener 2 Hydref 2026.
  • Arddangosfa Ffotograffiaeth yn Y Banc: Dydd Sadwrn 3 a Dydd Sul 4 Hydref 2026.
ENWEBWCH YMA!
Mae dal amser i chi gael dweud eich dweud!

Cliciwch yma i gwblhau ein Harolwg Cymunedol a helpu i lunio dyfodol Caerffili