Mae diwylliant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, a gwahanol ddiwylliannau!
Dyna pam rydyn ni eisiau dysgu mwy am yr hyn mae diwylliant yn ei olygu i ni yng Nghaerffili - ac mae angen eich help chi arnom ni.
Gall diwylliant olygu unrhyw un o'r pethau canlynol, a mwy:
Cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr, dawns, celf, iaith - gan gynnwys yr iaith Gymraeg, crefft, drama, addysg, treftadaeth, ffasiwn, symudiad, bwyd, cyfarfodydd cymdeithasol wedi'u trefnu a mwy.